A yw ChildLine yn gyfrinachol?
View this in English
Ein bwriad bob amser yw cadw galwadau i ChildLine yn gyfrinachol, ond os ydym yn bryderus iawn am eich diogelwch oherwydd bod y sefyllfa yr ydych yn dweud eich bod ynddi yn gwneud i ni feddwl bod eich bywyd chi neu fywyd rhywun arall mewn perygl, byddwn yn siarad â chi am yr angen i bobl eraill wybod. Bydd eich cwnselydd ChildLine ond yn gweithredu os yw'n teimlo ei fod yn argyfwng.
Nid oes rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion eraill pan fyddwch yn ein galw ni, felly os ydych eisiau siarad â ni yn ddienw, mae hynny'n iawn. Wrth gwrs, mae'n fwy anodd i ni weithredu os nad ydych yn rhoi unrhyw wybodaeth i ni amdanoch chi.
Nid yw ChildLine yn cofnodi galwadau, ond gall goruchwylwyr cwnselwyr ChildLine wrando ar eich galwad hefyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu eich helpu yn y ffordd orau bosibl.
A fydd fy ngalwad ar y bil ffôn?
Gan fod ChildLine yn rhif 0800, mae'r galwadau am ddim ac nid ydynt yn cael eu dangos ar fil ffôn BT neu gebl. Mae galwadau i ChildLine ar 0800 1111 am ddim ar hyn o bryd o'r holl rwydweithiau presennol - 3, BT Mobile, Fresh, O2, Orange, T Mobile, Virgin, Vodafone. Rydym wedi cael gwybod na fydd galwadau yn ymddangos ar unrhyw un o'r biliau hyn.
Bydd y rhif yn dal yn ymddangos ar y rhestr o alwadau yr ydych wedi eu gwneud ar eich ffôn symudol. Os nad ydych eisiau i bobl weld y rhif, dylech ei ddileu o'r rhestr o alwadau yr ydych wedi eu galw.